P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol gefnogi’r alwad ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor Sir Penfro i sicrhau y buddsoddir mewn cynllun i wella canol tref Abergwaun, gan gynnwys mesurau sy’n ymwneud â cherddwyr a rheoli traffig. Mae’n rhaid i gynllun gwella o’r fath wella hyfywedd a chynaliadwyedd y dref a’i gwneud yn gwbl hygyrch i’r holl drigolion ac ymwelwyr, gan gynnwys y rheini sydd ag anghenion o ran symudedd ac anableddau eraill.


Prif ddeisebydd:
Cynghorydd Bob Kilmister

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 7 Chwefror2012

Nifer y deisebwyr: Casglwyd 1,042